Calon Lân
Calon Iach
Calon Tysul
Dyma’r geiriau ag ysgrifennwyd gan brifardd, Tudur Dylan Jones wrth i ni agor y fenter elusennol newydd, Calon Tysul ym mis Rhagfyr 2017.
Mae Calon Tysul yn gymaint mwy na phwll nofio a chanolfan hamdden. Rydyn ni yma i gefnogi, ysbrydoli ac i annog trigolion ein hardal o gwmpas Llandysul i gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau cymdeithasol. Boed yn nofio yn ein pwll, codi pwysau yn ein hystafell ffitrwydd neu gymryd rhan mewn gweithdy crefft yn ein hystafell amlbwrpas, mae rhywbeth at ddant pawb!
Ffurfiwyd Calon Tysul yn 2017 ar ôl i Gyngor Sir Ceredigion trosglwyddo ‘Canolfan Hamdden Llandysul’ i berchnogaeth yr Ymddiriedolwyr Canolfan Dŵr Llandysul.
Penderfynwyd roedd angen enw newydd ar gyfer dechrau newydd, felly dewiswyd yr enw Calon Tysul i adlewyrchu pwysigrwydd y ganolfan i bawb yn ein pentref.
Mae ‘na groeso mawr i chi gysylltu gyda ni am sgwrs neu os gennych syniad o sut gallwn ni wella ein darpariaeth.
Mae Calon Tysul yn Sefydliad Corfforedig Elusennol, Rhif – 1154780