Ystafell ffitrwydd | Fitness suite

/Ystafell ffitrwydd | Fitness suite

Read in English

 

Mae digon o gyfarpar yn ein hystafell ffitrwydd i’ch helpu gwella’ch ffitrwydd a’ch iechyd.  Boed yn codi pwysau rhydd, rhedeg ar y peiriant rhedeg neu’n defnyddio’r peiriannau gwytnwch, gallwch chi ddod o hyd i’r ymarferion perthnasol.

Mae’r ystafell ffitrwydd ar gyfer aelodau ac ar gyfer pobl sydd ddim ag aelodaeth.

Cyfarpar:

1 x Peiriant rhedeg
1 x Peiriant rhwyfo, Concept 2
2 x cross trainer
1 x upright exercise bikes
1 x recumbent exercise bike

Peiriannau gwytnwch:
1 x Shoulder Press
1 x Chest Press
1 x Leg Press
1 x Leg extension
1 x Abdominal
1 x Seated arm row / Cable arm curl
1 x Lat pulldown
1 x Pec Dec

Dumbells Sets

10 x beiciau sbin

Archebu sesiwn

Anogir i chi archebu eich sesiwn yn yr ystafell ffitrwydd o flaen llaw gan taw nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael ym mhob sesiwn.  Mae rhan fwyaf o sesiynau yn para am awr a hanner.

Gallwch weld argaeledd ac archebu sesiwn ar ein gwefan archebu fan hyn.

Ymaelodi

Gallwch chi arbed arian a chefnogi gwaith Calon Tysul trwy ymaelodi.  Gweler ein tudalen aelodaeth am fwy o wybodaeth.

Sesiwn Cyflwyniadol

Er mwyn defnyddio ein hystafell ffitrwydd, mae’n rhaid i bawb gwblhau sesiwn cyflwyniadol.  Mae hynny’n sicrhau eich bod chi’n gwybod sut i ddefnyddio’r offer yn gywir.  Cysylltwch gyda ni i drefnu eich sesiwn.

Pobl Ifanc

Mae hawl gan bobl dros 16 oed ddefnyddio’r ystafell ffitrwydd heb gymorth os ydynt wedi cwblhau’r sesiwn cyflwyniadol.

Pobl ifanc 12-13 oed: gallu defnyddio cyfarpar ‘cardio’ yn unig + rhaid i oedolyn cyfrifol eu hebrwng pob tro.  Dim hawl defnyddio’r peiriannau gwytnwch na chodi’r pwysau rhydd.

Pobl ifanc 14-15 oed: gallu defnyddio cyfarpar ‘cardio’ yn unig ond does dim rhaid i oedolyn cyfrifol eu hebrwng.  Dim hawl defnyddio’r peiriannau gwytnwch na chodi’r pwysau rhydd.

Merched yn unig:  cynhelir sesiynau yn yr ystafell ffitrwydd ar gyfer merched yn unig.  Archebwch fan hyn.

Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff Cymru

Efallai byddwch chi’n gymwys i gymryd rhan mewn sesiynau ffitrwydd gyda hyfforddwr arbenigol.  Siaradwch â gweithiwr iechyd proffesiynol i weld os yw’r rhaglen yn addas ar eich cyfer.

Fel arfer, mae’r cynllun gwella iechyd a lles yn agored i bobl sydd yn dod dros salwch, anaf neu gyflwr ac mae’n helpu gwella eich ffitrwydd a lles trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau actif yn ein hystafell ffitrwydd neu yn y neuadd.

Mwy o wybodaeth ynglŷn â’r cynllun ar gael fan hyn.

Read in English

 

There is plenty of equipment in our fitness room to help you improve your fitness and health. Whether it’s lifting free weights, running on the treadmill or using the resistance machines, you can find the relevant exercises.

The fitness suite is open for members and non-members.

Equipment:

1 x Running machine
1 x Rowing machine, Concept 2
2 x cross trainer
1 x upright exercise bikes
1 x recumbent exercise bike

Resistance machines:
1 x Shoulder Press
1 x Chest Press
1 x Leg Press
1 x Leg extension
1 x Abdominal
1 x Seated arm row / Cable arm curl
1 x Lat pulldown
1 x Pec Dec

Dumbells Sets

10 x spin bikes

Book a session

You are encouraged to book your session in the fitness room in advance as there are a limited number of places available in each session. Most sessions last for an hour and a half.

You can view availability and book a session on our booking website here.

Membership

You can save money and support the work of Calon Tysul by becoming a member.  See our membership page for more information.

Fitness Suite induction

In order to use our fitness room, everyone must complete an introductory session. That ensures you know how to use the equipment correctly. Contact us to arrange your session.

Young people

People over the age of 16 are entitled to use the fitness room without assistance if they have completed the induction session.

Young people aged 12-13: can only use ‘cardio’ equipment + a responsible adult must accompany them at all times.  Not permitted to use the resistance machines or use the free weights.

Young people aged 14-15: can only use ‘cardio’ equipment but do not have to be accompanied by a responsible adult.  Not permitted to use the resistance machines or use the free weights.

Women only: we run women’s only fitness room sessions.  Book here.

National Exercise Referral Scheme

You may be eligible to take part in fitness sessions with a specialist trainer. Talk to a health professional to see if the programme is right for you.

The health and wellness recovery plan is usually open to people recovering from an illness, injury or condition and helps you improve your fitness and wellbeing by taking part in active activities in our fitness room or in the hall.

More information about the scheme is available here.