Y Ganolfan | The Centre

/Y Ganolfan | The Centre

Read in English

Wedi lleoli yn Llandysul ar safle’r hen Ysgol Dyffryn Teifi, mae Calon Tysul yn Ganolfan Gymunedol er lles cymunedau Llandysul ac ardal Dyffryn Teifi.

Agorwyd Pwll Nofio Glannau Teifi yn 1975 ac ehangwyd yr adeilad i gynnwys Canolfan Hamdden Llandysul yn 2003.  Cafodd y ddau endid eu cynnal ar wahân tan 2017 pan drosglwyddodd Cyngor Sir Ceredigion berchnogaeth a chyfrifoldeb y ganolfan hamdden i ymddiriedolwyr y pwll nofio.  Daeth Calon Tysul i fodolaeth a daeth dau adeilad yn un.

Cynhelir nifer fawr o weithgareddau ac rydyn ni’n barod iawn i glywed am syniadau newydd.  Cysylltwch gyda ni i drafod.

Read in English

Located in Llandysul on the site of the old Ysgol Dyffryn Teifi, Calon Tysul is a Community Centre for the benefit of the residents of Llandysul and the Teifi Valley area.

Teifi Side Swimming Pool opened in 1975 and the building was extended to include Llandysul Leisure Centre in 2003.  The two entities were run separately until 2017 when Ceredigion County Council transferred ownership and responsibility of the leisure centre to the trustees of the swimming pool. At this point, Calon Tysul came into being and two buildings became one.

A wide variety of activities are held at the centre and we are very happy to hear new ideas.  Contact us to discuss.

Prisiau Ac Aelodaeth | Prices & Membership

Gweler rhestr prisiau ar gyfer gweithgareddau Calon Tysul ac i weld yr opsiynau aelodaeth i’r Pwll nofio a’r ystafell ffitrwydd.

See the price list for Calon Tysul activities and to see the membership options for the swimming pool and the fitness room.

Llogi Lle | Venue Hire

Ydych chi’n chwilio am rywle i gynnal cyfarfod, cyfweliad neu ddigwyddiad?  Neu ydych chi eisiau dechrau clwb newydd?  Efallai gallwn ni helpu.

Are you looking for somewhere to hold a meeting, interview or event? Or do you want to start a new club?  Maybe we can help.

Cyfleusterau | Facilities

Ydych chi’n chwilio am rywle i gynnal cyfarfod, cyfweliad neu ddigwyddiad?  Neu ydych chi eisiau dechrau clwb newydd?  Efallai gallwn ni helpu.

Are you looking for somewhere to hold a meeting, interview or event? Or do you want to start a new club?  Maybe we can help.

Canolfan Hyfforddiant | Training Centre

Mae Calon Tysul yn ganolfan hyfforddiant y Gymdeithas Achub Bywyd Brenhinol ac mae gennym ystafell ddysgu berffaith ar gyfer cyrsiau o bob math.

Calon Tysul is an approved training centre for the Royal Life Saving Society and we have a perfect learning room for almost any type of course.