Ymunwch a’r tîm | Join the team

/Ymunwch a’r tîm | Join the team

💬 Read in English

Rydym yn Recriwtio!

Mae Calon Tysul yn chwilio am aelodau newydd i ymuno a’n tîm weithgar.

Swydd Barhaol

Uwch Gynorthwyydd (llawn amser)

Cynorthwyo Rheolwr Gweithrediadau i oruchwylio’r perfformiad gweithredol yn effeithiol yng Nghanolfan Hamdden a Dŵr Calon Tysul, gan sicrhau gwasanaeth o safon i’n cwsmeriaid.  Mwy o wybodaeth a sut i ymgeisio.

 

 

Manteision gweithio i Galon Tysul:

  • Gweithio dros elusen er fudd y gymuned leol
  • Cyfle i arwain tîm bychan, ifanc sy’n angerddol dros nofio ac hamdden
  • Tîm staff agos a chyfeillgar gyda blaenoriaeth dros wella iechyd ein cymuned
  • Aelodaeth cyfleusterau –  mae’r staff yn gallu defnyddio’r pwll nofio / ystafell ffitrwydd yn rhad ac am ddim
  • Gweithio yn Llandysul, Ceredigion – tref hanesyddol gyda phwyslais ar weithgareddau awyr agored a chadarnle yr iaith Gymraeg
  • Yr ysgol nofio mwyaf yng Ngheredigion gyda 300 o blant yn derbyn gwersi nofio pob wythnos – y cyfleuster cyntaf yng ngorllewin Cymru i fod yn ysgol nofio achrededig Nofio Cymru
  • Canolfan cymunedol gydag ystod eang o weithgareddau hamddenol / chwaraeon
  • Cysylltwch â Martin Spencer, Business Development & Finance Manager at martin@calontysul.cymru

 

Swyddi Achlysurol

Cynorthwyydd y Ganolfan (achlysurol) – yn bennaf byddi di’n helpu o gwmpas y Ganolfan, yn goruchwylio’r pwll nofio, glanhau, rhoi cymorth cyntaf yn ôl yr angen, gosod a thynnu lawr offer a rhoi gwasanaeth rhagorol i’n cwsmeriaid.  Mae amrywiaeth o shifftiau ar gael rhwng 2.5 – 8 awr, fel arfer yn y prynhawn / nos neu ar y penwythnos.

Athro Nofio (achlysurol) – byddi di’n sicrhau bod plant yn derbyn gwersi nofio o’r safon uchaf fel rhan o’n tîm dysgu nofio, Tonnau Tysul.  Mae dros 300 o blant yn aelodau o’n hysgol nofio ac mae’r rôl hon yn hanfodol i lwyddiant y rhaglen.  Mae’r ysgol nofio yn gweithredu rhwng 4 – 7pm yn ystod yr wythnos ac ar foreau Sadwrn.  Gellid dewis sawl dosbarth yr wythnos rwyt ti’n dysgu.

Cynorthwyydd Nofio (achlysurol) – byddi di’n helpu o fewn y pwll yn bennaf er mwyn sicrhau bod plantos o fach yn cael yr help sydd angen arnyn nhw yn ystod y gwersi.  Byddi di’n cynorthwyo’r athro nofio mewn gwersi nofio ar gyfer plant 2- 8 oed.  Mae’r ysgol nofio yn gweithredu rhwng 4 – 7pm yn ystod yr wythnos ac ar foreau Sadwrn.  Gellid dewis sawl dosbarth yr wythnos rwyt ti’n cynorthwyo.

Os wyt ti’n barod i roi cais am swydd achlysurol, gellid ymgeisio ar-lein fan hyn.

 

Read in English

We’re Recruiting!

Calon Tysul is looking for new members to join our active team.

 

Permanent Posts

 

Senior Attendant (full time)

To assist the Operations Manager in the effective supervision of operational performance at Calon Tysul Leisure and Aqua Centre ensuring quality service provision to our customer.  More information and how to apply.

 

Benefits of working for Calon Tysul:

  • Work for a charity for the benefit of the local community
  • An opportunity to lead a small, young team who are passionate about swimming and leisure
  • A close and friendly team of staff with a passion for improving the health of our community
  • Facilities membership – the staff can use the swimming pool / fitness room free of charge
  • Work in Llandysul, Ceredigion – a historic town with an emphasis on outdoor activities and a stronghold of the Welsh language
  • The largest swim school in Ceredigion with 300 children receiving swimming lessons every week – also the first facility in west wales to be a Swim Wales accredited swim school
  • A community centre with a wide range of leisure / sporting activities
    Contact Martin Spencer, Business Development & Finance Manager at martin@calontysul.cymru

Casual Jobs

Centre Assistant (casual) – you will mainly help around the Centre, supervising the swimming pool, cleaning, giving first aid as needed, setting up and taking down equipment and providing excellent service to our customers.  There’s a variety of shifts between 2.5 – 8 hours, usually in the afternoons / evenings and on the weekends.

Swimming Teacher (casual) – you will ensure that children receive swimming lessons of the highest quality as part of our learn to swim programme, Tonnau Tysul.  Over 300 children are members of our swimming school and this role is essential to the success of the programme.  The swim school operates between 4 – 7pm during the week, as well as on Saturday mornings.  You can choose the number of classes that you teach each week.

Swimming Assistant (casual) – you will mainly help in the pool to ensure that young children get the help they need during the lessons.  You will assist the swimming teacher in swimming lessons for children aged 2-8.  The swim school operates between 4 – 7pm during the week, as well as on Saturday mornings.  You can choose the number of classes that you assist with each week.

If you are ready to apply for a casual post, you can apply online here.