Yr Iaith Gymraeg | Welsh Language

//Yr Iaith Gymraeg | Welsh Language

Read in English

Mae ‘iaith y nefoedd’ yn holl bwysig i ni ac rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb sydd yn ymwneud gyda Calon Tysul yn gallu defnyddio Cymraeg neu Saesneg.  

Gyda chanran uchel o siaradwyr Cymraeg yng Ngheredigion a’n cymdogion sirol yn Sir Gaerfyrddin, mae cynnal gwasanaethau hamdden dwyieithog yn hanfodol.

Rydyn ni’n falch i dderbyn cydnabyddiaeth o’n hymrwymiad gan Fenter Iaith Ceredigion.  Yn 2020 derbyniwyd gwobr safon aur am ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau yn y Gymraeg.  Mae hynny’n golygu gallech chi ddisgwyl delio gyda ni yn y Gymraeg neu yn Saesneg yn gyfartal.

Yn ogystal, Calon Tysul yw’r unig bwll nofio yng Ngorllewin a De Cymru sy’n cynnal gwersi nofio trwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf.

Os oes gennych ddiddordeb dysgu mwy am hyn, cysylltwch gyda ni a byddwn ni’n hapus i drafod.

 

Croeso i Ddysgwyr!

Os ydych chi’n dysgu Cymraeg, gallwch ddod aton ni i ymarfer eich Cymraeg – pa bynnag lefel ydych chi, gallwch chi ddod mewn i gael sgwrs gyda’n staff cyfeillgar.

Read in English

In Wales, we refer to our language as ‘iaith y nefoedd’ (the language of the heavens).  The Welsh language is very important to us and we are committed to ensuring that everyone involved with Calon Tysul can use Welsh or English.

With a high percentage of Welsh speakers in Ceredigion and our county neighbours in Carmarthenshire, offering bilingual leisure services is essential.

We are proud to receive recognition of our commitment from Menter Iaith Ceredigion. In 2020, we received a gold standard award for our commitment to providing services in the Welsh language.  That means you can expect to deal with us in Welsh or English equally.

In addition, Calon Tysul is the only swimming pool in West and South Wales that holds swimming lessons primarily through the medium of Welsh.

If you’re interested in learning more about this, please get in touch.

 

Welsh Learners Welcome

If you’re learning Welsh, you can come in and practice your Welsh with us – whatever level you are at, you’re welcome to come in for a ‘sgwrs’ with our friendly staff.

logo-cymraeg
derbynfa

Polisi Iaith Gymraeg

Read in English

Cyfrifoldeb am yr Adolygiad Dyddiad yr Adolygiad Diwethaf Dyddiad yr Adolygiad Nesaf
Pwyllgor Rheoli Medi 2021 Medi 2023

 Cyflwyniad

Mae Calon Tysul yn cydnabod bod gan yr iaith Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ac ni ddylid ei drin mewn modd llai ffafriol na’r iaith Saesneg. Credwn ei fod yn arfer dda i ddarparu gwasanaethau yn newis iaith ein cwsmeriaid. Credwn hefyd yn credu ei fod yn dangos parch i’n gweithlu i annog a hwyluso’r defnydd o’u dewis iaith yn y gweithle.

Mae Calon Tysul wedi mabwysiadu’r egwyddor y bydd yn trin yr iaith Saesneg a’r iaith Gymraeg ar sail gyfartal wrth gyflawni ei weithgareddau busnes yng Nghymru. Credwn fod cynnig gwasanaethau sy’n parchu dewis iaith yr unigolyn yn gallu gwneud gwahaniaeth sylweddol i brofiad yr unigolyn. Dymunwn annog pobl sy’n ymdrin â Calon Tysul i deimlo’n gyfforddus yn defnyddio’r iaith a ddewiswyd ganddynt. Byddwn yn darparu ein gwasanaethau’n ddwyieithog lle bo hynny’n ymarferol ac yn briodol.

Byddwn yn sicrhau ein bod yn gwneud cynnydd cyson tuag at gyflawni’r nod hwn ac mae ein Polisi Iaith Gymraeg yn gosod ein hymrwymiadau presennol o ran defnyddio’r Gymraeg o fewn y gwasanaethau a ddarperir gennym ac yn y gweithle.

Bydd gwasanaeth cyfrwng Cymraeg yn cael ei ystyried yn rhan hanfodol o weithgareddau Calon Tysul. Bydd ein gweithdrefnau ar gyfer adnabod gwariant ac adnoddau’n adlewyrchu hyn. Byddwn yn anelu at sicrhau bod gwariant a defnydd adnoddau ar wasanaeth cyfrwng Cymraeg yn weithgaredd arferol fel ei fod yn dod yn broses naturiol i gynnig gwasanaeth yn nwy iaith swyddogol Cymru, lle bynnag bo hynny’n addas, rhesymol ac ymarferol.

Mae’r Polisi hwn yn amlinellu sut y bydd Calon Tysul gweithredu’r egwyddor hwn wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd. Bydd dysgu o brofiad yn nodwedd o’r Polisi hwn, a byddwn yn ymdrechu i sicrhau cynnydd rheolaidd a pharhaus er mwyn cynnig y gwasanaeth gorau posibl i’n defnyddwyr.

 

Cynllunio a darparu gwasanaethau

Polisïau a mentrau newydd

Bydd unrhyw fentrau a pholisïau newydd neu ddiwygiedig sy’n cael eu mabwysiadau yn hyrwyddo ac yn hwyluso defnydd o’r Gymraeg lle bo hynny’n bosibl ac yn mynd â’r sefydliad yn nes at weithredu’r egwyddor o gyfartaledd ar bob achlysur. Byddwn yn sicrhau bod yr holl staff a’r gwirfoddolwyr yn ymwybodol o ofynion y Polisi Iaith Gymraeg hwn ac unrhyw gyfrifoldebau a roddir i’r sefydliad gan gontractwyr neu ddarparwyr grantiau. Pan fo Calon Tysul yn cynllunio ac yn ffurfioli polisïau neu fentrau, byddwn yn asesu deilliannau ieithyddol, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd yn llwyr ag ymrwymiadau’r Polisi hwn. Rheolwr y Ganolfan fydd yn gyfrifol dros sicrhau bod unrhyw ddatblygiadau yn parchu’r ymrwymiadau a wneir yn y Polisi hwn.

Darparu gwasanaethau

Y nod yw darparu gwasanaeth o ansawdd uchel yn unol â’n hymrwymiad yn y Polisi hwn. Bydd safon y gwasanaeth dwyieithog hwn yn cael ei adolygu’n rheolaidd, gyda’r nod o wella’r safon yn barhaus.

Bydd Calon Tysul yn gweithio tuag at ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr o’r un safon yn y Saesneg a’r Gymraeg trwy:

  • sicrhau bod yr holl staff a’r gwirfoddolwyr yn ymwybodol o oblygiadau’r Polisi Iaith Gymraeg hwn
  • sicrhau bod gofyn i ganran uchel o staff a gwirfoddolwyr weithio trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg
  • ddarparu hyfforddiant ac arweiniad i staff allu hwyluso gweithrediad y Polisi
  • annog defnyddwyr y gwasanaeth i deimlo’n hyderus wrth ddefnyddio’r Gymraeg a/neu’r Saesneg
  • ganfod gwasanaethau cyfieithu o ansawdd uchel er mwyn sicrhau bod yr holl ddeunyddiau perthnasol yn cael eu cyfieithu’n sydyn ac yn ddibynadwy

 

Cyfathrebu gyda’r cyhoedd sy’n siarad Cymraeg

Gohebiaeth ysgrifenedig

Mae Calon Tysul yn croesawu gohebiaeth ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd yr holl ohebiaeth a dderbynnir trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei ateb yn Gymraeg. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr holl ohebiaeth a dderbynnir trwy gyfrwng y Gymraeg yn derbyn sylw o fewn yr un amserlen â gohebiaeth Saesneg.

Cyfathrebu dros y ffôn

Mae croeso i bobl siarad Saesneg neu Gymraeg wrth ddelio â Calon Tysul dros y ffôn. Os na fydd modd i aelod o staff ddarparu gwasanaeth dwyieithog, byddant yn egluro’r sefyllfa i’r unigolyn ac yn cynnig gwasanaeth cyfrwng Cymraeg gan aelod arall o staff. Os nad oes siaradwyr Cymraeg ar gael, gall y person sy’n galw dewis cael person sy’n siarad Cymraeg i roi galwad yn ôl iddynt; cyflwyno’r cais yn ysgrifenedig (copi caled/e-bost); neu barhau â’r sgwrs trwy gyfrwng y Saesneg.

Wyneb i wyneb

Mae Calon Tysul wrthi’n sicrhau bod y rhai sy’n dymuno cael cyswllt wyneb i wyneb gydag aelod o staff sy’n siarad Cymraeg yn gallu gwneud hynny.

 

Delwedd gorfforaethol

Hunaniaeth gorfforaethol

Bydd hunaniaeth gorfforaethol Calon Tysul yn gwbl ddwyieithog gan gynnwys enw’r sefydliad, ei gyfeiriad a’i logo a bydd yn weledol ar bapur pennawd, cardiau busnes, ayyb. Bydd y ddwy iaith yn gyfartal o ran maint, fformat, ansawdd, eglurdeb ac amlygrwydd.

Arwyddion

Wrth ailosod arwyddion, mae Calon Tysul wedi ymrwymo i ddarparu arwyddion cwbl ddwyieithog a bydd y ddwy iaith yn gyfartal o ran ffurf, maint, ansawdd ac amlygrwydd. Bydd hynny’n cynnwys arwyddion mewnol ac allanol mewn swyddfeydd. Bydd yr arwyddion yn cynnal yr egwyddor o gydraddoldeb, gyda’r Gymraeg yn ymddangos uwchben neu o flaen y Saesneg.

Cyhoeddiadau

Bydd yr holl ddeunyddiau sydd wedi’u hargraffu, megis pamffledi yn ddwyieithog h.y. gyda’r ddwy iaith yn yr un ddogfen, ac mewn fformat addas ar gyfer y ddogfen e.e. ochr yn ochr ar gyfer posteri a chefn wrth gefn ar gyfer dogfennau mwy o faint. Os nad yw’n bosibl cyhoeddi dogfennau mewn fformat dwyieithog, bydd Calon Tysul yn sicrhau bod fersiynau Cymraeg ar gael.

Gweithredu’r polisi

Bydd Calon Tysul yn asesu’r sgiliau ieithyddol sy’n angenrheidiol yn y gweithle ac ar gyfer pob gweithgaredd craidd er mwyn gweithredu’r Polisi. Bydd disgrifiadau swydd yn cynnwys cymal yn nodi bod y gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol, dymunol, neu nad yw’n angenrheidiol ar gyfer y swydd dan sylw.

Bydd Calon Tysul yn cynnal adolygiad o sgiliau ieithyddol ei staff ac yn cynnwys yr wybodaeth hon mewn rhestr cysylltiadau mewnol er mwyn (a) gwneud defnydd llawn o’u sgiliau iaith a (b) i adnabod anghenion datblygu a fydd yn cyfrannu at atgyfnerthu ein diwylliant iaith gynhwysol. Bydd unrhyw brinder sgiliau ieithyddol yn cael sylw trwy hyfforddi staff presennol neu recriwtio staff newydd fel bo’r angen.

Wrth recriwtio staff newydd, gwirfoddolwyr ac Aelodau’r Bwrdd a Phwyllgorau, bydd Calon Tysul yn rhoi ystyriaeth i ofynion ieithyddol y swydd a’r tîm yn ei gyfanrwydd er mwyn galluogi’r Polisi i gael ei weithredu. Bydd Calon Tysul yn cefnogi staff sy’n dymuno gwella eu sgiliau iaith fel rhan o’u datblygiad proffesiynol parhaus.

Dysgu Cymraeg

Bydd Calon Tysul yn ymdrechu i annog a chefnogi staff sy’n dymuno dysgu Cymraeg ac i gefnogi staff sy’n siarad Cymraeg ac yn dymuno gwella eu sgiliau iaith. Bydd staff sy’n siarad Cymraeg yn annog staff eraill sy’n dysgu Cymraeg i siarad Cymraeg yn y gweithle.

Arweiniad a chymorth

Bydd Calon Tysul yn darparu’r holl gefnogaeth sy’n berthnasol er mwyn gweithredu’r Polisi hwn a’r canllawiau uchod trwy gyngor uniongyrchol, gwasanaeth cyfieithwyr, lle bo angen, a hyfforddiant priodol. Am arweiniad pellach yn ymwneud ag unrhyw agwedd o’r Polisi, cysylltwch â Rheolwr y Ganolfan.

Welsh Language Policy

Read in English

Responsibility for Review Date of Last Review Date of Next Review
Management Committee September 2021 September 2023

Introduction

Calon Tysul recognises that under the Welsh Language (Wales) Measure 2011, the Welsh language has official status in Wales and should be treated no less favourably than the English language. We believe that it is good practice to provide services in the language of choice to our clients. We also believe that it shows respect to our workforce to encourage and facilitate the use of their chosen language in the workplace.

Calon Tysul has adopted the principle that in the conduct of its business in Wales it will treat the English and Welsh languages on the basis of equality. We believe that offering services which respect an individual’s choice of language can make a significant difference to the experience of the individual. We wish to encourage people who have dealings with Calon Tysul to feel comfortable using their preferred language. We will provide our services bilingually wherever it is practical and appropriate.

We will ensure that we make constant progress towards achieving this aim and our Welsh Language Policy sets out our current commitments in relation to using Welsh within the services we provide and in the workplace.

A Welsh language service will be considered an essential part of Calon Tysul’s activities. Our procedures for identifying spending and resources will reflect this. We will aim to ensure that spending and using resources on a Welsh language service is normal practice so that it becomes natural to offer a service in Wales’s two official languages wherever that is suitable, reasonable and practical.

This Policy sets out how Calon Tysul will put into effect this principle when providing services to the public. Learning from experience will be a feature of this Policy, and we will endeavour to ensure continuous and regular progress to offer the best possible service to our users.

 

Planning and delivering services

New policies and initiatives

Any new or revised initiatives and policies which are adopted will promote and facilitate the use of Welsh wherever possible and take the organisation closer to putting into effect the principle of equality at all times. We will ensure that all staff and volunteers are aware of the requirements of this Welsh Language Policy and any responsibilities placed on the organisation by contractors or grant providers. When Calon Tysul plans and formalises policies or initiatives, we will assess the language outcomes, ensuring that they fulfil the commitments of this Policy. The Centre Manager will be responsible for ensuring that any developments respect the commitments made in this Policy.

Delivery of services

The aim is to provide a high standard of service in accordance with our commitment to this Policy. The standard of this bilingual service will be regularly reviewed, with the aim of continuously improving the standard.

Calon Tysul will work towards the provision of a comprehensive service of the same high standard in English and Welsh by:

  • ensuring that all staff and volunteers are aware of the implications of this Welsh Language Policy
  • ensuring that a high percentage of staff and volunteers will be required to work through the medium of Welsh and English
  • providing training and guidance for staff to facilitate the implementation of the Policy
  • encouraging service users to feel comfortable using Welsh and/or English
  • finding reliable translation services of a high standard to ensure that all relevant material is translated quickly and reliably

 

Communicating with the Welsh-speaking public

Written correspondence

Calon Tysul welcomes written correspondence in English and Welsh. All correspondence received in Welsh will be answered in Welsh. We will endeavour to ensure that all correspondence in Welsh receives attention within the same timescale as correspondence in English.

Telephone communications

People are welcome to speak English or Welsh in dealing with Calon Tysul over the phone. If a member of staff is unable to provide a bilingual service, they will explain the situation to the individual and offer a Welsh language service from another member of staff. If no Welsh speakers are available, the caller may choose to have a Welsh speaker phone them back; submit the request in writing (hard copy/e-mail); or continue the conversation in English.

Face-to-face

Calon Tysul has undertaken to ensure that those who wish to have face-to-face contact with a Welsh-speaking member of staff will be able to do so.

 

Corporate image

Corporate identity

The corporate identity of Calon Tysul will be completely bilingual including the name of the organisation, its address and logo and it will be visible on headed paper, business cards, etc. Both languages will be equal in terms of size, format, quality, clarity and prominence.

Signage

In replacing signage, Calon Tysul is committed to the provision of completely bilingual signage and both languages will be equal in terms of form, size, quality and prominence. This will include internal and external signage at offices. The signage will uphold the principle of equality, with the Welsh appearing above or in front of the English.

Publications

All printed public material, such as leaflets will be bilingual i.e. with both languages in the same document, and in a suitable style for the document e.g. side-by-side for posters and back-to-back for larger documents. If it is not possible to publish documents in a bilingual format, Calon Tysul will ensure that Welsh versions are available.

Implementing the Policy

Calon Tysul will assess what language skills are necessary in the workplace and for each core activity in order to implement this Policy. Job descriptions will include a clause noting that the ability to communicate in Welsh is essential, desirable or not required for the post in question.

Calon Tysul will conduct a review of the language skills of its staff and will include this information in an internal contacts list in order to (a) make full use of their language skills and (b) identify development needs that will contribute towards strengthening our inclusive language culture. Any language skills shortages will be addressed by training current staff or recruiting new staff as appropriate.

When recruiting new staff, volunteers and Board Members, Calon Tysul will take into consideration the linguistic requirement of the role and the whole team in order to allow the implementation of this Policy. Calon Tysul will support staff who wish to improve their language skills as part of their continuing professional development.

Learning Welsh

Calon Tysul will endeavour to encourage and support staff who wish to learn Welsh and support Welsh-speaking staff who wish to improve their language skills. Welsh-speaking staff will encourage other staff who are learning Welsh to speak Welsh in the workplace.

Guidance and assistance

Calon Tysul will provide staff with all relevant support to implement this Policy and the guidelines above through direct advice, the service of translators, where necessary, and appropriate training. For further guidance regarding any aspect of the Policy, contact the Centre Manager