Datblygu Sgiliau Cymraeg Athrawon Nofio | Developing Swimming Teacher’s Welsh Skills

/Datblygu Sgiliau Cymraeg Athrawon Nofio | Developing Swimming Teacher’s Welsh Skills

💬 Read in English

Cwrs preswyl i wella sgiliau Cymraeg Athrawon Nofio

Cwrs dros dridiau mewn cadarnle y Gymraeg, Llandysul

Gyda mwy o alw am wersi nofio trwy gyfrwng y Gymraeg, mae angen cyrsiau gloywi’r iaith ar gyfer y gweithlu dysgu nofio ac rydyn ni yma i helpu!

Dyma gwrs newydd, arloesol ar gyfer athrawon / cynorthwywyr nofio ac unrhyw un sydd yn rhan o’r sector dysgu nofio sydd eisiau gwella neu ymarfer eu sgiliau Cymraeg.

 

 

Calon Tysul – pwll nofio cymunedol yn Llandysul.  Mae dros 350 o blant yn derbyn eu gwersi nofio trwy gyfrwng y Gymraeg yn ein pwll pob wythnos, felly rydyn ni wedi arfer darparu gwersi nofio Cymraeg / dwyieithog ac wedi datblygu cyrsiau dysgu / gloywi iaith yn arbennig i oedolion a phobl ifanc sydd yn ymwneud â chwaraeon.

Mi fyddi di’n gadael y cwrs gyda hyder ac awch newydd tuag at ddysgu nofio trwy gyfrwng y Gymraeg wrth ehangu dy eirfa terminoleg dysgu nofio Cymraeg.

 

Dyddiadau’r Cwrs: 2 – 4 Mis Mawrth 2023

Dydd Iau 2/3/23:

11:00 cyrraedd Llandysul

11:30 ymlaen – gweithgareddau’r cwrs

18:30 swper ac yna gweithgaredd cymdeithasol

Dydd Gwener 3/3/23:

09:00 ymlaen – gweithgareddau’r cwrs

18:30 swper ac yna gweithgaredd cymdeithasol

Dydd Sadwrn 4/3/23:

09:00 ymlaen – gweithgareddau’r cwrs

13:00 cinio

14:00 cwrs yn gorffen

 

Cost: £49

Gan fod hwn y cwrs peilot, dydyn ni ddim yn codi’r ffi llawn.  Mae’r cost yn cynnwys gweithgareddau y cwrs, bwyd a llety dwy noson mewn byncws, Llandysul Paddlers.

Archebwch eich lle yma

Ble:

Calon Tysul, Heol Llyn y Fran, Llandysul, Ceredigion, SA44 4HP

Mae Llandysul tua 30 munud mewn car i’r gogledd o Gaerfyrddin yng ngorllewin Cymru ac oddeutu 55 munud lawr o Aberystwyth.

 

Pwy:

Ar gyfer y rhai sy’n cyfrifol am ddysgu plant i nofio

  • Athrawon nofio
  • Cynorthwywyr nofio
  • Cydlynwyr gwersi nofio
  • Unrhyw un sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg er mwyn dysgu gweithgareddau dŵr i blant.

Mae angen fod o leiaf 18 oed i fynychu’r cwrs hwn.

 

Cynnwys y cwrs

  • Ymarfer dysgu gwersi nofio / gweithgareddau dŵr yn Gymraeg
  • Rhoi cyfarwyddiadau grŵp yn y Gymraeg / dwyieithog
  • Deall a defnyddio termau nofio yn y Gymraeg
  • Cynnal gwers nofio ddwyieithog yn effeithiol

Mi fydd ffocws ar weithgareddau ymarferol yn y dŵr yn ystod y cwrs, yn ogystal â’r cyfle i ddefnyddio eich sgiliau Cymraeg.

Fe fydd rhai gweithgareddau yn digwydd yn ein pwll nofio dan do a bydd rhai yn digwydd ar y llyn / afon yn Llandysul Paddlers.

Fe fydd cyfle i arwain / cynorthwyo gwersi gyda phlant er mwyn ymarfer dysgu yn y Gymraeg / dysgu’n ddwyieithog a bydd ein tiwtoriaid wrth dy ymyl i gefnogi.

Gyda’r nos fe fydd cyfle i ymlacio dros bryd o fwyd twym ac yna cyfle i gymryd rhan mewn gweithgaredd cymdeithasol.


Cwestiynau Cyffredin

Ble mae'r cwrs?

Fe fydd y cwrs yn digwydd mewn dau leoliad yn Llandysul.  Mae’r dau le yn agos iawn at ei gilydd ac mae’n bosib cerdded rhyngddynt mewn llai na 10 munud.

Calon Tysul (pwll nofio a chanolfan hamdden, lleoliad gweithgareddau tu fewn y cwrs) SA44 4HP

Llandysul Paddlers (llety a lleoliad gweithgareddau ymarferol tu allan y cwrs)  SA44 4AA

Wyt ti angen fod yn siaradwr Cymraeg hyderus i ddod?

Cyfrwng y cwrs yw Cymraeg ond dydyn ni ddim yn mynnu dy fod yn siarad Cymraeg academaidd, perffaith.  Rydyn ni yma i dy helpu codi hyder yn yr iaith, felly os wyt ti’n deall a siarad rhywfaint o Gymraeg, dylai’r cwrs fod yn addas iti ac o fudd.

Rydyn ni’n disgwyl i bawb defnyddio pa bynnag Cymraeg sydd gyda nhw tra bod nhw yn Llandysul yn hytrach na droi at y Saesneg – fe fydd hynny’n sicrhau llwyddiant y cwrs i bawb.

Paid â phoeni o gwbl os oes angen defnyddio ychydig o eiriau Saesneg mewn brawddeg yma ac acw neu os wyt ti heb siarad yr iaith yn rheolaidd ers sbel – byddwn yn creu amgylchedd cyfforddus i bawb.

Os wyt ti’n siaradwr Cymraeg naturiol sy’n siarad Cymraeg fel dy brif iaith, fe fydd y cwrs yn codi dy hyder i ddysgu nofio trwy gyfrwng y Gymraeg a dy gryfhau dy eirfa terminoleg nofio yn y Gymraeg.

Fydd y cwrs ddim yn addas ar gyfer pobl sy ddim yn gallu deall a siarad rhyw faint o Gymraeg.  Mi fydd pob weithgaredd yn digwydd yn y Gymraeg yn bennaf.  Rydyn ni’n hapus i drafod gyda chi i weld os yw’r cwrs yn addas ar eich cyfer.  E-bostiwch: matt@calontysul.cymru

Pwy yw'r tiwtoriaid?

Hwyluswyr:

Iestyn ap Dafydd
Mae gan Iestyn blynyddoedd o brofiad dysgu Cymraeg i oedolion o bob man ar draws Cymru ond hefyd gwledydd megis Seland Newydd, Y Ffindir a’r Almaen!  Mi wnaeth Iestyn sefydlu a rhedeg y “Bŵtcamp” hynod o lwyddiannus i helpu siaradwyr Cymraeg di-hyder.  Mae nofio yn agos at galon Iestyn ac mae e wedi bod yn ymddiriedolwr pwll nofio Llandysul ers 2014 yn helpu sicrhau dyfodol rhaglen dysgu nofio yn yr ardal.

Matt Adams
Ers dechrau dysgu Cymraeg fel oedolyn yn 2006, mae Matt wedi llwyddo i ddod yn rhugl yn yr iaith ac yn nes ymlaen wedi hyfforddi fel tiwtor Cymraeg i oedolion.  Mae e wedi gweithio yn y maes datblygu chwaraeon / hamdden ers graddio yn 2001 ac wedi bod yn sylfaenydd yr unig pwll nofio yn ne Cymru sydd yn dysgu gwersi nofio i blant gyda Chymraeg yn brif iaith.

Heather Randall + Staff Dysgu Nofio Calon Tysul

Fe fydd ein cydlynydd nofio Calon Tysul, Heather yn arwain yr elfennau dysgu nofio.  Mae Heather (sy’n siarad Cymraeg yn ail iaith) ac yn athro nofio profiadol ac mae ganddi cymhwyster SEQ Lefel 3 yn ogystal a chymhwyster Hyfforddwr Asesiwr dros y Gymdetihas Achub Bywyd Brenhinol.

Mae pob aelod o staff yn Calon Tysul yn siarad Cymraeg ac mae gyda ni y profiad, arbenigrwydd ac ymroddiad i helpu pobl eraill sydd yn darparu gwersi nofio yn y Gymraeg neu yn ddwyieithog i wella eu sgiliau ieithyddol.  Rydyn ni’n bob tro yn hapus i helpu dysgwyr Cymraeg i ymarfer tra bod nhw yn y Ganolfan.

Beth yw fformat y cwrs?

Mi fydd y cwrs yn eithaf ymarferol gyda ychydig iawn o ddysgu tu ôl desgiau mewn dosbarth!

Fe fydd amrywiaeth o weithgareddau tu-allan a thu-fewn a bydd rhywfaint o wylio gwersi nofio yn ein pwll a hefyd cyfle i ymarfer dy sgiliau dysgu yn y Gymraeg.

Prif nod y cwrs yw codi eich hyder a gallu i ddefnyddio pa bynnag lefel o Gymraeg sydd gen ti.

Fe fydd y cyfan yn digwydd mewn awyrgylch hwyl, cefnogol a chadarnhaol.

Pam cwrs preswyl?

Rydyn ni’n teimlo bod y ffordd gorau o wella sgiliau Cymraeg yw trwy trochi yn yr iaith.  Mae’n haws cyflawni hynny os yw pawb yn aros gyda ni.  Fe fydd hynny’n rhoi cyfle i ti defnyddio dy Gymraeg mewn ffordd hamddenol wrth fwyta a chymdeithasu gyda’r pobl eraill ar y cwrs a’r tiwtoriaid, nid yn unig yn ystod y sesiynau ffurfiol ‘dysgu’.

Fe fydd pawb ar y cwrs yn gwneud popeth yn y Gymraeg o gyrraedd am 11 bore Iau neu gadael am 2pm Dydd Sadwrn!  Mi fydd hynny’n sicrhau dy fod yn llawer mwy hyderus yn defnyddio dy sgiliau Cymraeg tra’n dysgu nofio wrth gadael ni.

Ble ydw i'n aros? Beth yw'r llety?

Byddi di’n aros yn llety, Llandysul Paddlers – mwy o wybodaeth am y llety fan hyn.

Os nad wyt ti am aros yn y llety, gellid nodi hynny ar y daflen cofrestru.  Mae nifer o westai / opsiynau eraill yn agos ond fe fydd rhaid iti dalu am llety arall.

Bwyta

Byddwn ni’n bwydo pawb ar y cwrs tra dy fod gyda ni. Rhoi wybod os unrhyw gofynion bwyd os gwelwch yn dda.

Iau 2/3/23 – cinio a swper
Gwener 3/3/23 – brecwast, cinio a swper
Sadwrn 4/3/21 – brecwast a chinio

Brecwast: te/coffi, tost, grawnfwydydd
Cinio: cinio bwffe oer – brechdanau, saladau ayyb
Swper: pryd o fwyd cartref twym

Pwy yw trefnwyr y cwrs?

Calon Tysul yw’r canolfan hamdden lleol sydd wedi bod yn dysgu nofio i blant yn Llandysul ers adeiladwyd y pwll yn 1975.

Mae Calon Tysul yn elusen gofrestredig (rhif 1154780) ac yn darparu gweithgareddau amrywiol i bobl yn ein cymuned.  Yn ogystal, rydyn ni’n canolfan dysgu ar gyfer Cymdeithas Achub Bywyd Brenhinol.

Yn 2017, penderfynwyd ail-strwythuro ein hysgol nofio, ‘Tonnau Tysul’, a phenderfynwyd defnyddio’r Gymraeg fel prif iaith pob gwers nofio.

Rydyn ni’n wrthi’n datblygu cyrsiau peilot ar gyfer gwella sgiliau Cymraeg athrawon nofio.  Mae gyda ni arbenigedd yn y maes dysgu nofio trwy gyfrwng y Gymraeg, felly hoffem rhannu ein profiadau gyda darparwyr nofio eraill o’r draws Cymru sydd am wella eu darpariaeth Cymraeg / dwyieithog.

Nodyn i Gydlynwyr / Darparwyr Dysgu Nofio

Os ydych chi wedi nodi aelodau o’ch tîm dysgu nofio i allu cyflwyno gwersi nofio naill ai’n ddwyieithog neu yn Gymraeg, bydd y cwrs hwn yn gyfle gwych iddynt gael profiad nofio penodol o ymarfer a defnyddio’r Gymraeg gyda grwpiau o blant ifanc.

Mae’n bosibl bod aelodau o’ch staff LTS wedi derbyn eu haddysg gynradd/uwchradd mewn ysgol cyfrwng Cymraeg neu’n defnyddio’r iaith gartref neu yn y gwaith. Fodd bynnag, ni ellir cymryd yn ganiataol eu bod yn hyderus i ddysgu nofio yn y Gymraeg.

Bydd y cwrs hwn yn sicrhau eu bod yn gadael Llandysul gyda brwdfrydedd dros ddefnyddio’r iaith ar ochr y pwll ac yn gyfarwydd â therminoleg Gymraeg ar gyfer nofio.

Os ydych yn bwriadu darparu gwersi nofio yn ddwyieithog, bydd y cwrs hwn yn helpu staff Dysgu Nofio i ddeall y ffordd fwyaf effeithiol o ddysgu nofio gyda grŵp o blant ag anghenion ieithyddol gwahanol.

Cysylltwch â ni os hoffech wirio addasrwydd y cwrs hwn ar gyfer eich staff neu os hoffech gadw nifer o lefydd ar y cwrs.

Yr ardal lleol - Llandysul

Llandysul yw’r dref fwyaf deheuol yng Ngheredigion, ag Afon Teifi sy’n ffurfio ffin ddeheuol. Darllen mwy am yr ardal fan hyn.

Cymraeg yw prif iaith llawer o bobl yn y dref ac mae 57% o bobl yn Llandysul yn medru ar yr iaith.  Gellid glywed Cymraeg yn y siopau, ar y stryd, yn y tafarndai ac yn y pwll nofio!  Dyma’r lle delfrydol i drochi yn yr iaith ac i ymarfer dy sgiliau Cymraeg gyda phobl croesawgar!

Hygyrchedd

Archebwch le cyn gynted â phosib os gwelwch yn dda er mwyn galluogi digon o amser i wneud trefniadau ar eich cyfer. Os yr ydych yn cael trafferth archebu tocyn am ba bynnag reswm, neu chi eisiau trafod y cwrs, cysylltwch â ni’n uniongyrchol os gwelwch yn dda: matt@calontysul.cymru

Read in English


A residential course to improve
Swim Teacher’s Welsh skills

A course over three days held in one of the strongholds of the Welsh language, Llandysul

With more demand for swimming lessons through the medium of Welsh, language refresher courses are needed for the learn to swim workforce and we are here to help!

This is a new, innovative course for swimming teachers / assistants and anyone who is part of the learn to swim sector who wants to improve or practice their Welsh skills.

 

 

Calon Tysul – a community swimming pool in Llandysul.  Over 350 children receive their swimming lessons through the medium of Welsh in our pool every week, so we are used to providing Welsh / bilingual swimming lessons and have developed language learning / refresher courses especially for adults and young people who are involved in sports.  You will leave the course with confidence and a new appetite towards teaching swimming through the medium of Welsh whilst expanding your Welsh learn to swim vocabulary.

 

Course Dates: 2 – 4 March 2023

Thursday 2/3/23:

11:00 arrive in Llandysul

11:30 onwards – course activities

18:30 dinner followed by a social activity

Friday 3/3/23:

09:00 onwards – course activities

18:30 dinner followed by a social activity

Saturday 4/3/23:

09:00 onwards – course activities

13:00 lunch

14:00 course ends

 

Cost: £49

As this is the pilot course, we are not charging the full fee.  The cost includes the course activities, food and two nights’ accommodation in the bunkhouse at Llandysul Paddlers.

Book your place here

 

Where?

Calon Tysul, Llyn y Fran Road, Llandysul, Ceredigion, SA44 4HP

Llandysul is about 30 minutes’ drive north of Carmarthen in west Wales and approximately 55 minutes south of Aberystwyth.

 

Who?

For those responsible for teaching children to swim

  • Swimming teachers
  • Swimming assistants
  • Swimming lesson coordinators
  • Anyone who wants to develop their Welsh skills in order to teach children water activities.

You must be at least 18 years old to attend this course.

 

Course content

  • Practice teaching swimming lessons / water activities in Welsh
  • Giving group instructions in Welsh / bilingual
  • Understand and use swimming terms in Welsh
  • Conducting a bilingual swimming lesson effectively

There will be a focus on practical activities in the water during the course, as well as the opportunity to use your Welsh skills.

Some activities will take place in our indoor swimming pool and some will take place on the lake / river at Llandysul Paddlers.

There will be an opportunity to lead / assist lessons with children in order to practice teaching in Welsh / teaching bilingually and our tutors will be by your side to support you.

In the evening there will be an opportunity to relax over a hot meal and then an opportunity to take part in a social activity.


Frequently Asked Questions

Where will the course take place?

The course will take place in two locations in Llandysul. The two venues are very close to each other and it is possible to walk between them in less than 10 minutes.

Calon Tysul (swimming pool and leisure centre, venue for indoor course activities) SA44 4HP

Llandysul Paddlers (accommodation and location of outdoor practical course activities)  SA44 4AA

 

Do you need to be a confident Welsh speaker to attend?

The medium of the course is Welsh but we do not require you to speak academically perfect Welsh.  We are here to help you build your confidence in the language, so if you understand and speak some Welsh, the course should be suitable for you and beneficial.

We expect everyone to use whatever Welsh they have while they are in Llandysul rather than turning to English – this will ensure the success of the course for everyone. 

Please don’t worry at all if you need to use a few English words in a sentence here and there or if you are out of practice – we will create a comfortable environment for everyone.

If you are a first language Welsh speaker who speaks Welsh as your main language, the course will raise your confidence in teaching swimming in the medium of Welsh and strengthen your vocabulary of swimming terminology in Welsh.

The course will not be suitable for people who cannot understand and speak a certain amount of Welsh.  All activities will take place mainly in Welsh. We are happy to discuss with you to see if the course is suitable for you. Email: matt@calontysul.cymru

Who are the tutors?

Facilitators:

Iestyn ap Dafydd

Iestyn has many years of experience teaching Welsh to adults from all over Wales but also from countries such as New Zealand, Finland and Germany! Iestyn founded an extremely successful residential ‘Bootcamp’ to help Welsh speakers with low confidence.  Swimming is close to Iestyn’s heart and he has been a trustee of Llandysul swimming pool since 2014 helping to ensure the future of the learn to swim programme in the area.

Matt Adams

Since starting to learn Welsh as an adult in 2006, Matt managed to become fluent in the language and later trained as a Welsh tutor for adults.  He has worked in the sports/leisure development field since graduating in 2001 and is the founder of the only learn to swim programme in south Wales that uses Welsh as the main language of all swimming lessons.

Heather Randall & LTS staff

Our swimming co-ordinator, Heather, will lead on the learn to swim elements.  Heather (a second-language Welsh speaker) is a SEQ Level 3 qualified swim teacher and is also a qualified Trainer Assessor for the Royal Lifesaving Society. 

All Calon Tysul members of staff speak Welsh and we have the experience, expertise and dedication to help other people who provide swimming lessons in Welsh or bilingually to improve their linguistic skills.  We are always happy to help Welsh learners to practice whilst they are at the Centre.

What is the format of the course?

The course will be quite practical with very little learning behind desks in a classroom! There will be a variety of outdoor and indoor activities and there will be some observation of swimming lessons in our pool and also an opportunity to practice your teaching skills in Welsh. 

The main aim of the course is to raise your confidence and ability to use whatever level of Welsh you have.  This will all happen in a fun, supportive and positive atmosphere.

Why a residential course?

We feel that the best way to improve Welsh language skills is through immersion in the language.

It is easier to achieve that if everyone stays with us.  This will give you the opportunity to use your Welsh in a relaxed way whilst eating and socialising with the other people on the course and the tutors, not just during the formal ‘learning’ sessions.

 

Everyone on the course will do everything in Welsh from when they arrive at 11am on Thursday until they leave at 2pm on Saturday!  This will ensure that you are much more confident in using your Welsh skills for swimming instruction when you leave us.

Where do I stay? What is the accommodation?

You will stay in accommodation, Llandysul Paddlers – more information about the accommodation here.

If you do not want to stay in the provided accommodation, this can be indicated on the registration form. There are a number of other hotels / options close by but you will have to pay for other accommodation.

Food?

We’ll feed everyone on the course while you’re with us. Please let me know if there are any dieatary requirements.

Thursday 2/3/23 – lunch and dinner

Friday 3/3/23 – breakfast, lunch and dinner

Saturday 4/3/21 – breakfast and lunch

Breakfast: tea/coffee, toast, cereals
Lunch: cold buffet lunch – sandwiches, salads etc
Dinner: a hot home cooked meal

Who are the course organisers?

Calon Tysul is a local leisure centre that has been teaching children to swim in Llandysul since the pool was built in 1975. 

Calon Tysul is a registered charity (number 1154780) and provides various activities for people in our community.  We are also an approved training centre for the Royal Life Saving Society. 

In 2017, we re-structured our swim school, ‘Tonnau Tysul’, and decided to use Welsh as the main language of all swimming lessons. 

We are currently developing pilot courses for improving swimming teachers’ Welsh skills.  We have expertise in running learn to swim programmes through the medium of Welsh, so we would like to share our experiences with other swimming providers from across Wales who want to improve their Welsh / bilingual provision.

A note for Learn to Swim Coordinators / Providers

If you have identified members of your learn to swim team to potentially deliver swimming lessons either bilingually or in Welsh, this course will be an excellent opportunity for them to gain a swim-specific experience of practicing and using the Welsh language with groups of young children.

It is possible that members of your LTS staff have received their primary / secondary education in a Welsh-medium school or use the language at home or in work.  However, it cannot be assumed that they are confident to teach swimming in Welsh.

This course will ensure that they leave Llandysul with a renewed enthusiasm for using the language on pool-side and are familiar with Welsh terminology for swimming.

If you plan to provide swimming lessons bilingually, this course will help LTS staff understand the most effective way to teach swimming with a group of children with differing language needs.

Please contact us if you would like to check the suitability of this course for your staff or if you would like to reserve multiple places on the course.

The area - Llandysul

Llandysul is the southernmost town in Ceredigion, with the Teifi River forming the southern boundary.  Read more about the area here.

Welsh is the main language of many people in the town and 57% of people in Llandysul speak the language.  Welsh can be heard in the shops, on the street, in the pubs and in the swimming pool! This is the ideal place to immerse yourself in the language and to practice your Welsh skills with friendly people!

Accessibility

Please book a place as soon as possible to allow enough time to make arrangements for you. If you are having trouble booking a place for whatever reason, or you want to discuss the course, please contact us directly: matt@calontysul.cymru