Mae costau gwresogi’r pwll a’r adeilad wedi bod yn cynyddu’n sylweddol yn y flwyddyn diwethaf felly ers Mehefin 2022, rydyn ni wedi cwtogi’r amseroedd nofio er mwyn ceisio arbed arian.
Yn anffodus, mae bron pob pwll yng Nghymru’n wynebu’r un broblem – costau gwresogi a chostau trydan yn dyblu neu hyd yn oed treblu. Mae Nofio Cymru yn rhybuddio a gall hyd at 150 o byllau ar draws Cymru cau oherwydd y costau ychwanegol.
Mae Calon Tysul wedi llwyddo trefnu grantiau er mwyn gosod system ynni mwy cynaliadwy yn yr adeilad ac mae’r gwaith gosod paneli solar ar ein to wrthi yn ogystal â system arall i helpu gwresogi’r pwll heb ddibynnu’n llwyr ar olew.
Yn y cyfamser, rydyn ni wedi gofyn i Gronfa Fferm Wynt Brechfa am gymorth ariannol er mwyn goroesi trwy’r misoedd oerach. Rydyn ni’n hapus iawn i ddweud buodd ein cais yn llwyddiannus ac mae’r gronfa wedi cytuno i roi £48,000 dros 6 mis. Fe fydd yr arian yn mynd tuag at ein costau cynnal a chadw ac yn galluogi ni ychwanegu mwy o sesiynau yn y pwll, sy’n newyddion gwych ar gyfer defnyddwyr y pwll.
Dyma’r sesiynau newydd fydd ar gael o’r 27ain o Chwefror ymlaen neu gallwch weld yr amserlen pwll cyfan ac archebu sesiynau fan hyn.
Sesiwn | Dydd | Amser |
Nofio Lôn* | Llun | 19:30 – 20:30 |
Nofio i fenywod yn unig | Mawrth | 19:30 – 20:30 |
Nofio Lôn | Iau | 07:30 – 08:30 |
Nofio Lôn | Iau | 08:30 – 09:30 |
Nofio ar gyfer aelodau | Gwener | 08:30 – 09:30 |
Nofio Lôn | Gwener | 09:30 – 10:30 |
Aqua Ffit | Gwener | 18:00 – 19:00 |
*Dim ar Nos Lun cyntaf y mis oherwydd hyfforddiant staff
The costs of heating the pool and building have been increasing significantly in the last year so from June 2022, we needed to reduce swimming times to try and save money.
Unfortunately, almost every pool in Wales faces the same problem – heating costs and electricity costs doubling or even tripling. Swim Wales warns that up to 150 pools across Wales may close due to the additional costs.
Calon Tysul has managed to arrange grants in order to install a more sustainable energy system in the building and the installation of solar panels on our roof is underway as well as another system to help heat the pool without relying entirely on oil.
In the meantime, we have asked the Brechfa Wind Farm Fund for financial support in order to survive through the colder months. We are very happy to say that our application was successful and the fund has agreed to give £48,000 over 6 months. The money will go towards our maintenance costs and enable us to add more sessions in the pool which is great news for pool users.
These are the new sessions that will be available from the 27th of February onwards or you can see the whole pool schedule and book sessions here.
Session | Day | Time |
Lane swimming* | Monday | 19:30 – 20:30 |
Ladies only swimming | Tuesday | 19:30 – 20:30 |
Lane swimming | Thursday | 07:30 – 08:30 |
Lane swimming | Thursday | 08:30 – 09:30 |
Member’s only swimming | Friday | 08:30 – 09:30 |
Lane swimming | Friday | 09:30 – 10:30 |
Aqua Ffit | Friday | 18:00 – 19:00 |
*Not available first Monday each month due to staff training
No comments yet.