Calon Tysul yn Datblygu Cwrs Arloesol Newydd | Calon Tysul Develops Innovative New Course

/, Cymraeg Welsh/Calon Tysul yn Datblygu Cwrs Arloesol Newydd | Calon Tysul Develops Innovative New Course

Read in English

 
 
Mae Calon Tysul wedi lansio prosiect cyffrous ac arloesol er mwyn gwella sgiliau Cymraeg ar ochr pyllau nofio ledled Cymru.  

Fe fydd staff sydd yn gweithio yn y sector dysgu nofio yn gallu mynychu amrywiaeth o gyrsiau ar-lein ac wyneb i wyneb yn fuan i wella eu sgiliau ieithyddol.

Diolch i gymorth gan gynllun grant LEADER Cynnal y Cardi ac Adran Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Sir Ceredigion, mae Calon Tysul wrthi’n creu cyrsiau peilot bydd yn help mawr i athrawon nofio sydd am godi ychydig o hyder yn y Gymraeg neu sydd eisiau gwybod sut i ddysgu gwersi nofio yn  effeithiol yn ddwyieithog.

Dywed rheolwr y prosiect, Matt Adams, “er bod miloedd o deuluoedd yn siarad Cymraeg fel eu prif iaith ar draws Cymru, dydy mynediad at wersi nofio cyfrwng Cymraeg ddim wedi bod yn hawdd iawn i bob teulu. Rydyn ni’n ffodus yn Llandysul i allu darparu ein rhaglen dysgu nofio i gyd yn y Gymraeg, ond prin yw’r cyfleoedd hynny mewn pyllau nofio eraill.  Fe fydd y cyrsiau hyn yn helpu darparwyr nofio gwella sgiliau Cymraeg eu gweithlu trwy roi hyfforddiant ychwanegol yn seiliedig ar ddysgu nofio iddynt.”

Dywedodd, Iestyn ap Dafydd, ymgynghorydd ieithyddol y prosiect. “rydyn ni wrthi’n creu adnoddau dysgu ar gyfer gwersi ‘micro’ ar blatfformau megis TikTok a Snapchat.  Bydd y rhain ar gyfer un rhywun sydd eisiau gallu dysgu ambell i air neu derm Cymraeg ar gyfer dysgu nofio.  Hefyd, mae cwrs peilot preswyl yn digwydd ym mis Mawrth yn Llandysul ac mae hyn ar gyfer pobl sy’n medru ar yr iaith eisoes ond sydd eisiau gwella hyder i ddefnyddio eu Cymraeg wrth ddysgu nofio i blant.”

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r rhaglen, cliciwch fan hyn neu cysylltwch â Matt Adams, matt@calontysul.cymru / 01559 362548.

 

 

Read in English

 

Calon Tysul has launched an exciting and innovative project to improve Welsh language skills on the pool side across Wales.

Staff who work in the learn to swim sector will soon be able to attend a variety of online and face-to-face courses to improve their linguistic skills.

Thanks to support from the LEADER Cynnal y Cardi grant plan and Ceredigion County Council’s Youth Service department, Calon Tysul is currently creating pilot courses that will be of great help to swimming teachers who want to gain a little more confidence in the Welsh language or who want to know how to teach swimming lessons effectively bilingually.

Project manager, Matt Adams, says, “although thousands of families speak Welsh as their main language across Wales, access to Welsh-medium swimming lessons has not been very easy for all families. We are fortunate in Llandysul to be able to provide our entire learn to swim programme in Welsh, but those opportunities are few and far between in other swimming pools. These courses will help swimming providers improve the Welsh language skills of their workforce by giving them additional swim-specific training.”

Iestyn ap Dafydd, the project’s linguistic consultant, said. “We are currently creating learning resources for ‘micro’ lessons on platforms such as TikTok and Snapchat. These would be for anyone that wants to be able to learn a few Welsh words or terms for teaching swimming.  We’re also planning a residential pilot course to take place in March in Llandysul and this is for people who already speak the language but who want to improve their confidence in using their Welsh when teaching children swimming.”

For more information regarding the programme, click here or contact Matt Adams, matt@calontysul.cymru / 01559 362548.

 

1 Comment

  • […] Mae Calon Tysul wedi datblygu cwrs peilot a gaeth ei rhoi ar brawf yr wythnos ddiwethaf yn Llandysul.  Mae’r cwrs wedi’i deilwra’n arbennig ar gyfer anghenion staff dysgu nofio Cymru er mwyn gwella sgiliau Cymraeg a magu hyder wrth ddefnyddio’r iaith ar ochr y pwll.  Darllen mwy am y peilot fan hyn. […]

Leave a comment

Your email address will not be published.